Welcome to Neuro Expression

'Dim byd i ni hebddon ni'

Pwy Ydym Ni?

Wedi’n harwain gan brofiad o lygad y ffynnon ym mhopeth a wnawn, a chyda phrofi a mewnbwn cyson gan bobl sy’n niwroamrywiol a/neu’n anabl, rydym yn helpu sefydliadau i wneud addasiadau rhesymol, dylunio a gweithredu mannau a deunyddiau hygyrch, ac rydym yn creu amgylcheddau a chyfleoedd cynhwysol a chroesawgar i bobl o bob gallu i ymgysylltu â’r celfyddydau a’u mwynhau.

Eisiau Dysgu Mwy?

Helo, fy enw i yw Nathan, ac mae gennyf ddiagnosis o Ddyspracsia, Awtistiaeth tybiedig ac Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD).

Fel rhywun sydd â gradd ôl-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol, Gradd Meistr mewn Delweddau Symudol, a hanes hir o weithio ym maes caethiwed, rwy’n deall y rhwystrau o fod yn niwroamrywiol o fewn cyd-destun prifysgol a gwaith.

Oherwydd hynny, mae'r fenter gymdeithasol hon, Neuroexpression, wedi'i hadeiladu ar y cynsail o rymuso pobl niwroamrywiol, artistiaid niwroamrywiol, a chreu byd niwroamrywiol cyfeillgar.

Cliciwch ar y fideo i ddeall sut mae'r fenter gymdeithasol hon yn darparu budd cymdeithasol.

Nathan

cyWelsh